cyflwyniad

Saif uwchben Aber-porth gyda golygfeydd hyfryd dros Fae Ceredigion i fyny at Benrhyn Llyn ar dywydd clir. 
Gellwch orwedd ar y gwely'n gwrando ar siffrwd y gwynt a chlecian y tan coed a nodyn ambell gwdihw tra'n gwylio'r ser yn wincio'n y nos. Ar noson ddistaw cewch glywed y mor yn torri ar y traeth gerllaw "a'i regfeydd drwy'r ogofau", ys dywed y bardd.
 
Darperir barbciws symudol fel y gellir eu defnyddio y tu fewn petai'n digwydd bod yn wlyb (anaml iawn!) Gofynnir i ymwelwyr ddod a'u siarcol a'u bwyd eu hunain. Bydd fridj yn gyfleus ar gyfer bwydydd ffres a diodydd, yn ogystal a thegell a thaclau te a choffi ynghyd ag offer arferol gwersylla, ond gwahoddir pawb i ddod ag unrhyw bethau y dymunant i fod yn fwy cyfforddus.

Fel arfer bydd gwelyau awyr yn y tipi ond gofynnir i ywelwyr ddod a'u sachau cysgu eu hunain, er bod y lloriau wedi eu gorchuddio a matiau coco er mwyn clydwch.

Mae'r safle ei hun ar fferm weithiol, gyda gwahanol anifeiliad o gwmpas. Felly, serch bod ffensus cwbl ddiogel o amgylch, ni chaniateir cwn.

Gall y safle gysgu tuag ugain o oedolion yn gysurus, gyda mwyafrif o bump ar hugain (rhagor, wrth gwrs os cynhwysir plant).
Tri thipi cynhwysfawr, ond ni dderbynir pebyll cyffredin - nid yw'r tir yn addas.

Ni chroesewir systemau sain! Ond mae rhyddid ( anogaeth yn wir) i offerynnau cerdd acwstig.

Dau beth arall y bydd eu hangen arnoch - tywel neu ddau dros ben (ar gyfer dip yn y mor neu gawod boeth) ac ysbryd antur i drio gwyliau gwahanol.

 

[ cyflwyniad - lluniau - prisiau - ffordd i gyrraedd ]


 
Yr Hendre, Blaenannerch, Cardigan, Ceredigion SA432AN

Ffon 07813672336
info@tipiwest.com